Cymdeithas Rieni'r Ysgol
Mae addysg pob plentyn yn bartneriaeth tair ffordd rhwng rheini, disgyblion a’r athrawon.
- Gwneir pob ymdrech i sicrhau fod rheini yn wybodus am waith yr ysgol drwy lythyron newyddion a gwybodaeth gyson.
- Trefnir cyfarfodydd ffurfiol rhwng rhieni ac athrawon ac mae ein polisi ‘drws agored’ yn croesawi cyswllt anffurfiol rhwng rheini ac athrawon yn gyson.
- Annogir rhieni i hybu dysgu eu plant gartref drwy eu cefnogi gyda’u gwaith cartref, darllen a dysgu tablau.
- Trefna’r ysgol gyflwyniadau i rieni a llywodraethwyr ar agweddau megis ‘Darllen’, ‘Mathemateg’, ‘Y Cyfnod Sylfaen’, ‘Sgiliau Meddwl’, ‘Asesu’ a ‘Diogelwch ar y Wê’.
- Mae rhieni yn cynnig cefnogaeth ymarferol gwerthfawr i’r ysgol megis hyfforddi rygbi, cefnogi gweithgareddau a mynd ar ymweliadau addysgol, hyn yn ogystal â chefnogaeth ariannol.
- Mae Cymdeithas Cyfeillion yr Ysgol yn trefnu digwyddiadau i godi arian megis y Parti Calan Gaeaf blynyddol.
Cymdeithas Rieni'r Ysgol
Mae gennym Gymdeithas Rieni gefnogol ac mae croeso i bob rhiant gymryd rhan yn y gweithgareddau. Nid cymdeithas er mwyn codi arian yn unig yw ein un ni. Eto, ni ddylir dibrisio’r agwedd hon o’r gwaith ac mae’r ysgol yn gwerthfawrogi yn fawr y cymorth a gawn dros y blynyddoedd. Dyma brif amcanion y Gymdeithas :
- I ddatblygu dealltwriaeth lawnach rhwng rhieni ac athrawon.
- I gynorthwyo rhieni i ddeall datblygiadau diweddar mewn dysgu ac addysgu.
- I ddarparu gwybodaeth ehangach am y ddarpariaeth lleol a chenedlaethol o fewn addysg.
- I gefnogi gweithgareddau o bob math er mwyn hyrwyddo addysg a lles ein disgyblion.
- I gynorthywo’r ysgol i gynnal mwynderau na fyddent ar gael yn arferol, drwy gasglu arian.